Rydym yn cynnig rhaglen Hydref arall o deithiau cerdded tywys AM DDIM yn archwilio ac yn mwynhau Tirwedd Dreftadaeth Blaenafon
Mae'r teithiau cerdded yn amrywio o ran pellter o 5 i 10 km (3 - 6 milltir). Byddant orau ar gyfer oedolion sy'n gymharol ffit neu blant h欧n, ond byddwn yn ceisio darparu ar gyfer pobl 芒 phroblemau symudedd pryd bynnag y bo modd.
Bydd y teithiau cerdded yn cychwyn am 10.00 a.m. ar ddydd Sul olaf pob mis. Bydd y rhan fwyaf yn cychwyn o Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, ond bydd rhai yn cychwyn o leoliadau addas eraill, felly cadwch lygad barcud.
Gwisgwch esgidiau addas a byddwch yn barod rhag ofn tywydd gwlyb.
Os hoffech chi fod yn rhan o arwain neu helpu gyda'n rhaglen teithiau cerdded tywys, beth am ymuno 芒 BWHEG a dod yn rhan o'r t卯m?

30ain Tachwedd 2025
Taith Gerdded Olaf y Tymor
Yn cychwyn o Ganolfan Treftadaeth y Byd am 10.00 a.m.
" Mae'n Ffordd Hir i'r Whistle"

Taith gerdded o tua 7.5 km (4陆 milltir), addas ar gyfer plant h欧n, ond ni argymhellir ar gyfer pobl 芒 symudedd cyfyngedig. Mae'r daith gerdded hon yn mynd heibio hen weithfeydd glo a haearn ar y ffordd i Dafarn y Whistle, lle efallai y bydd peint dathlu tymhorol yn ddymunol. Yna byddwn yn disgyn llwybr Llynnoedd y Garn yn 么l i Ganolfan Treftadaeth y Byd.
Gall y llwybr amrywio yn 么l yr amodau dan draed!
Mae yna rhai esgyniadau (a disgyniadau) serth, a gall rhai rhannau fod yn eithaf mwdlyd mewn tywydd gwlyb, ond ar y cyfan mae'n hawdd cerdded arno gydag esgidiau addas ac ati.