O'r hel么 cyntaf i'r cwtsh cyntaf, mae timau maethu ar draws Gwent yn taflu goleuni ar yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd i groesawu a pham ei fod wrth wraidd pob taith maethu.
Mae Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol, yn dod 芒'r timau hyn ynghyd o dan nod cyffredin: sicrhau y gall pob plentyn yng Nghymru aros yn eu cymuned leol, yn agos at y bobl a'r lleoedd sy'n bwysig. Yn wahanol i asiantaethau annibynnol er-elw, mae Maethu Cymru nid-er-elw, sy'n golygu bod pob ceiniog yn mynd yn 么l i gefnogi plant, gofalwyr a theuluoedd yn eu hardal leol.
Ar draws Gwent 鈥 鈥嬧嫸兑蹙, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen 鈥 mae timau maethu awdurdodau lleol wedi'u huno o dan un neges: mae maethu yn ymwneud ag agor eich cartref, eich calon a'ch bywyd i blentyn neu berson ifanc sydd angen teimlo'n ddiogel a chael ei weld.
Mae'r ffocws rhanbarthol hwn yn adeiladu ar fenter genedlaethol Croeso Mawr Maethu Cymru, sy'n helpu plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am eu teuluoedd maeth newydd cyn iddynt gyrraedd. Mae'r platfform digidol, wedi'i lunio gan bobl ifanc sydd 芒 phrofiad o ofal, yn gadael i blant weld pwy yw eu gofalwyr, sut beth yw eu cartrefi a hyd yn oed pa anifeiliaid anwes neu hob茂au maen nhw'n eu rhannu. Mae'n gwneud yr eiliadau cyntaf hynny'n llai ansicr ac yn tawelu meddyliau rhywfaint: y cam cyntaf wrth helpu plentyn i deimlo ei fod yn perthyn go iawn.
鈥淒ywedodd ein plant wrthym eu bod eisiau mwy o wybodaeth am ble roedden nhw鈥檔 mynd i fyw, sut olwg fyddai ar eu hystafell, a oes anifeiliaid anwes, a beth mae eu gofalwyr yn mwynhau ei wneud. Mae Croeso Mawr yn darparu鈥檙 sicrwydd a鈥檙 cysylltiad sydd eu hangen i roi鈥檙 cychwyn gorau posibl i berthynas.鈥 鈥 Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru
Mae鈥檙 ymdeimlad hwnnw o berthyn wrth wraidd yr ymgyrch Croeso yng Ngwent. Mae鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 eiliadau bach, dynol sy鈥檔 llunio profiad pob plentyn: y w锚n gyntaf wrth y drws, y pryd cyntaf a rennir, y 鈥渄a iawn鈥 cyntaf ar 么l diwrnod mawr.
Ar draws y rhanbarth, mae鈥檙 ymgyrch yn archwilio beth mae croeso yn ei olygu mewn gwahanol fathau o faethu. Yn Nhorfaen, mae ffocws ar faethu pobl ifanc, gan ein hatgoffa bod pobl ifanc yn dal i fod yn blant yn y b么n ac yn tynnu sylw at yr eiliadau allweddol ym mywyd pobl ifanc. Efallai bod y bachgen bach a oedd unwaith yn llinellu ceir tegan bellach yn ymarfer ar gyfer ei brawf gyrru; efallai bod y ferch a oedd unwaith yn gwisgo fel tywysoges bellach yn dewis ei ffrog prom. Gyda thua 150 o blant mewn gofal a bron i hanner rhwng 13 a 17 oed, mae angen mwy o ofalwyr i gynnig sefydlogrwydd, cefnogaeth a theimlad o berthyn.
Yn Sir Fynwy, mae'r ffocws ar seibiant byr a maethu rhiant a phlentyn yn tynnu sylw at ddau faes cynyddol o angen. Mae gofalwyr seibiant byr yn darparu arosiadau rheolaidd, wedi'u cynllunio i blant a allai fod ag anghenion ychwanegol neu y mae eu teuluoedd angen cefnogaeth ychwanegol.
鈥淒im ond ers ychydig fisoedd yn unig dw i wedi bod yn ei wneud, ond pan ddywedodd fy mhlentyn maeth seibiant cyntaf wrthyf, ar hap鈥 鈥楧w i'n teimlo'n ddiogel yma.鈥 Fe wnaeth hynny doddi fy nghalon. Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n gwneud y peth iawn.鈥 鈥 John, gofalwr maeth Sir Fynwy
Yn y cyfamser, mae maethu rhiant a phlentyn yn helpu rhieni a phlant i aros gyda'i gilydd yn ddiogel o dan arweiniad gofalwyr profiadol. Mae'n rhan hanfodol ac sy'n ehangu o waith maethu Gwent.
Ym Mlaenau Gwent, y ffocws yw maethu plant ag anableddau neu anghenion cymhleth, gan bwysleisio sut y gall y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth gywir helpu pob plentyn i deimlo'n abl, yn gyfforddus ac yn wirioneddol wedi鈥檌 groesawu.
Mae'r gofalwyr maeth Sandra ac Ian yn cynnig seibiant i blant ag anableddau. Dywed Sandra:
"Rydym yn mwynhau darparu gofal seibiant i blant ag anableddau. Fel rhieni i bedwar o blant, rhai ohonynt ag anghenion dysgu ychwanegol, rydym wedi ennill cymwysterau ac rydym ein dau bellach yn gweithio'n broffesiynol yn y maes hwn. Ochr yn ochr 芒 chynnig sefydlogrwydd gartref, rydym yn cynllunio ein penwythnosau i roi profiadau i'r plant y gallent eu colli fel arall. Mae plentyn sy'n aros gyda ni yn ymuno'n naturiol 芒'r gweithgareddau a wnawn fel teulu, gan sicrhau bod rhywbeth hwyliog a chynhwysol yn digwydd bob amser."
Ar draws Caerffili a Chasnewydd, mae timau maethu yn hyrwyddo'r neges bod pob math o ofal yn dechrau gyda chroeso. Boed yn ofal tymor byr, cartref tymor hir neu ofal brys, gall y cysylltiad cyntaf Sharon[GLA1] - gw锚n, pryd o fwyd a rennir neu sicrwydd ysgafn "rydych chi'n ddiogel yma" - newid bywyd am byth.
Ochr yn ochr 芒 chroesawu gofalwyr maeth newydd, mae Maethu Cymru Gwent hefyd yn annog ymholiadau gan ofalwyr a allai fod yn ystyried trosglwyddo o asiantaethau maethu annibynnol. Cynigir croeso cynnes a rhwydwaith cymorth cryf i ofalwyr sy'n trosglwyddo, gyda sicrwydd bod yr holl adnoddau'n aros o fewn cymunedau lleol a bod plant Gwent yn elwa yn uniongyrchol.
Os ydych chi erioed wedi meddwl tybed a allech chi faethu, neu wedi meddwl "efallai un diwrnod", nawr yw'r amser i ddarganfod mwy. Nid oes angen yr holl atebion arnoch chi - yr hyn sydd bwysicaf yw'r parodrwydd i groesawu.
Dysgwch fwy neu ymholwch gyda'ch t卯m Maethu Cymru lleol yn