Agorwyd Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA) newydd sbon a chae 3G wedi'i uwchraddio yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar yn swyddogol heddiw gan Weinidog Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS.
Mae'r cyfleuster chwaraeon cymunedol wedi'i uwchraddio wedi'i ariannu gyda grant o Gronfa Cydweithredu Cyrtiau Chwaraeon Cymru o 拢80,069 gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Torrodd Jack Sargeant AS y rhuban ac, ynghyd 芒 gwesteion gwadd, cafodd weld y cyfleuster ar waith gyda phobl ifanc o Ysgol Gyfun Tredegar gerllaw.
Mae'r grant yn fuddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon ar lawr gwlad a llesiant cymunedol ar draws 抖阴精品, sydd hefyd yn cynnwys gosod paneli solar i wella cynaliadwyedd y safle.
Dywedodd Gweinidog Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Jack Sargeant AS:
"Mae'n wych agor yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd hon yn swyddogol yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar. Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn ategu eraill rydyn ni eisoes wedi'u gwneud yma yn y cae 3G a'r prosiectau arbed ynni, trwy Chwaraeon Cymru.
"Mae ein buddsoddiadau'n dangos ein hymrwymiad i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad, creu cyfleoedd i bobl o bob oed fod yn actif yn eu cymuned leol, a gwneud cyfraniad at adeiladu Cymru iachach, lanach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Gwyddom pa mor bwysig yw mynediad at gyfleusterau chwaraeon o safon ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol, ac mae'r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y llywodraeth, awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol yn cydweithio.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor 抖阴精品:
鈥淏ydd y lle newydd gwych hwn yn ganolfan ar gyfer gweithgaredd cymunedol, chwaraeon a llesiant. Diolch i Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru am gefnogi鈥檙 buddsoddiad hwn mewn pobl a chyfleoedd. Rydym yn falch o gydweithio ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, ein partner lleol gwerthfawr yr ydym yn gweithio鈥檔 agos gydag ef i helpu i adeiladu cymunedau iachach a mwy actif ym Mlaenau Gwent. Mae pob panel solar sy鈥檔 cael ei godi yn helpu i ymateb i鈥檙 argyfwng hinsawdd, ac mae鈥檔 wych gweld y buddsoddiad mewn p诺er solar yn y cyfleuster cymunedol hwn.鈥
Ychwanegodd Tom Kivell, Cyfarwyddwr Dros Dro, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:
鈥淢ae鈥檙 buddsoddiad hwn yn rhoi mynediad i bobl leol, yn enwedig pobl ifanc, at gyfleusterau o ansawdd uchel ar stepen eu drws. Mae cadw cymunedau鈥檔 actif yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant, ac mae鈥檙 prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol.鈥
Dywedodd Owen Hathaway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru:
鈥淐anfu ein Harolwg Chwaraeon Ysgol diwethaf yn 2022 fod bron i hanner y plant ym Mlaenau Gwent eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae p锚l-fasged, mae traean yn awyddus i chwarae mwy o denis, ac mae un rhan o bump eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae p锚l-rwyd.
鈥淥herwydd hyn, roeddem wrth ein bodd yn cefnogi鈥檙 prosiect cydweithredu cyrtiau hwn i helpu i ddiwallu鈥檙 galw lleol am fwy o leoedd lle gall pobl fwynhau chwarae鈥檙 tri chwaraeon hyn yn hamddenol.
鈥淒ros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi mwy na 拢725,000 o gyllid Llywodraeth Cymru yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar oherwydd ei fod yn gyfleuster mor allweddol i鈥檙 gymuned leol. Yn ogystal 芒鈥檙 gwaith cydweithredu cyrtiau, aeth ein buddsoddiad tuag at greu鈥檙 cae 3G, gosod paneli solar a mesurau eraill sydd wedi helpu i wneud y ganolfan yn fwy effeithlon o ran ynni fel ei bod yn rhatach i鈥檞 rhedeg.鈥
I gloi, dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:
"Cenhadaeth Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yw Gwella Bywyd Cymunedol. Rwy'n falch o bawb yn yr Ymddiriedolaeth sy'n gweithio mor galed i gyflawni hyn a thrwy gyllid ychwanegol y gallwn ni wir wella ein seilwaith a chreu cyfleusterau anhygoel i'r gymuned leol eu defnyddio."
* Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn sefydliad nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i wella cyfleusterau hamdden a dysgu pobl 抖阴精品. Mae pawb sy'n gweithio yn yr Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar gefnogi a gwella bywyd cymunedol. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol, statudol a thrydydd sector i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl ar draws canolfannau chwaraeon, llyfrgelloedd, Parc Bryn Bach, T欧 a Pharc Bedwellty a dysgu oedolion yn y gymuned.
