抖阴精品

Cofio Tad Meteoroleg

Bydd Syr David Brunt KBE FRS, a adnabyddir fel Tad Meteoroleg, yn cael ei goff谩u ym Mlaenau Gwent yr wythnos hon. Bydd plac glas a murlun yn cael eu dadorchuddio heddiw yn Llanhiledd, Abertyleri.

Symudodd teulu Brunt i Lanhiledd yn 1896. Yn wreiddiol, gweithwyr amaethyddol oeddent o Benffordd-las yn Sir Drefaldwyn, ond fe wnaethant symud i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ym mhyllau glo鈥檙 cwm. David oedd yr ieuengaf o naw o blant.

Cafodd ei addysg gynnar yn y Gymraeg, felly mae鈥檔 rhaid bod symud i Lanhiledd yn 10 oed a chael ei addysgu yn Saesneg yn her sylweddol. Fodd bynnag, llwyddodd i oresgyn hyn, gan sicrhau鈥檙 lle cyntaf yn ei arholiadau mynediad ac ennill ysgoloriaeth i鈥檙 ysgol ganolradd yn Abertyleri. Parhaodd 芒鈥檌 addysg yn lleol cyn mynd ymlaen i鈥檙 brifysgol. Yn fathemategydd rhagorol, cafodd David ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn ddiweddarach yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.

Ymunodd ag adran feteorolegol y Peirianwyr Brenhinol, lle chwyldr么dd sut y rhagwelir y tywydd trwy ei symud o ddulliau seiliedig ar arsylwi i ddull wedi鈥檌 seilio ar egwyddorion mathemategol. Yn ddiweddarach, daeth yn feteorolegydd i鈥檙 Llu Awyr. A thrwy鈥檙 gwaith hwn, fe鈥檌 hystyrir yn dad dulliau modern o ragweld y tywydd.

Cyfrannodd at ddealltwriaeth a defnydd ehangach o amledd Brunt鈥揤盲is盲l盲, sy鈥檔 cyfrifo arnofedd, ac roedd y gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer deall sefydlogrwydd atmosfferig, eigioneg, astroffiseg, peirianneg a geoffiseg.

Etholwyd David yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) yn 1939 a dyfarnwyd Medal Frenhinol iddo gan y gymdeithas yn 1944. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Ffisegol y Gymdeithas Frenhinol rhwng 1948 ac 1957.

Gwasanaethodd hefyd fel llywydd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol o 1942 i 1944, gan dderbyn y Wobr Buchan gan y gymdeithas ac wedyn, yn 1947, Medal Aur Symons am waith nodedig ym maes y gwyddorau meteorolegol.

Roedd hefyd yn llywydd y Gymdeithas Ffisegol o 1945 i 1947 ac enwyd Silff I芒 Brunt yn yr Antarctig er anrhydedd iddo, gan gydnabod ei r么l wrth gychwyn alldaith y Gymdeithas Frenhinol yno yn 1955.

Gwnaed David yn Farchog Baglor yn 1949 a鈥檌 benodi鈥檔 Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (KBE) yn 1959.

Dadorchuddiwyd y plac yn 7 Stryd Fawr鈥攃artref cyntaf teulu Brunt yn Llanhiledd鈥攇an ei or-nith, Rosalyn Carley. Dywedodd Rosalyn, 鈥淒aeth Hen Ewythr David i Lanhiledd pan oedd yn 10 oed a daeth ei ddisgleirdeb mewn mathemateg yn amlwg yn fuan. Aeth ymlaen i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn mathemateg o Brifysgol Aberystwyth, gan ddefnyddio鈥檙 wybodaeth hon i sefydlu gyrfa mewn meteoroleg, pwnc yr oedd yn angerddol iawn amdano. Rhoddodd ragweld y tywydd ar sail wyddonol am y tro cyntaf ac o ganlyniad roedd yn wir yn haeddu cael ei alw鈥檔 鈥楧ad Meteoroleg鈥. Rwy鈥檔 teimlo鈥檔 falch iawn, ar ran fy chwaer a minnau, o fod yn dadorchuddio鈥檙 plac glas hwn er anrhydedd i Syr David Brunt.鈥

Mae鈥檙 murlun, a gr毛wyd gan Andy O鈥橰ourke o Malarky Arts, wedi鈥檌 leoli mewn safle amlwg ar Heol Fasnachol yn Llanhiledd. Mae鈥檔 archwilio gwasanaeth milwrol a gwaith gwyddonol David, a鈥檌 gefnogaeth i archwilio鈥檙 Antarctig. Ychwanegodd ei hen, hen nith, Elinor Tomlin, 鈥淢ae fy chwaer a minnau鈥檔 hynod falch o鈥檔 hen ewythr, Syr David Brunt, am ei gyflawniadau gwyddonol niferus, y mae tri ohonynt yn ymddangos yn y murlun anhygoel hwn: hafaliad Brunt-V盲s盲l盲, ei gysylltiad 芒鈥檙 RAF yn y rhyfel, a Silff I芒 Brunt.鈥

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet dros yr Economi a Lle, 鈥淢ae digwyddiadau heddiw yn dathlu cyflawniadau rhagorol athrylith mathemategol a ddaeth o鈥檔 cymuned ni. Efallai fod cyflawniadau Syr David wedi bod yn guddiedig rhag llawer ohonom hyd heddiw ond rydym yn gobeithio, trwy ein hymdrechion, y bydd yn cael ei werthfawrogi鈥檔 eang ac yn ysbrydoliaeth i鈥檔 cenedlaethau iau.鈥

Dywedodd Derek Brockway, dyn tywydd y BBC, 鈥淩ydyn ni i gyd yn gwybod am Robert Fitzroy, y dyn a sefydlodd y Swyddfa Dywydd yn 1854, ond fe helpodd Syr David Brunt鈥攁 dreuliodd ran o鈥檌 blentyndod yma yn Llanhiledd鈥攊 lunio rhagolygon tywydd modern hefyd! Aeth ymlaen i ddod yn un o brif wyddonwyr atmosfferig y byd. Mewn gwirionedd, roedd ei waith mor bwysig wrth roi rhagolygon ar sail wyddonol briodol nes iddo ddod yn adnabyddus fel 鈥榯ad meteoroleg鈥.

鈥淔el cyd-feteorolegydd, gallaf ddweud yn ddiogel, bob tro y byddwn yn rhedeg model cyfrifiadurol modern neu鈥檔 dadansoddi sefydlogrwydd yr atmosffer, ein bod yn sefyll ar ysgwyddau鈥檙 cawr hwn o Lanhiledd.

鈥淏ydd dadorchuddio鈥檙 plac glas hwn yn diogelu ei etifeddiaeth ac yn sicrhau bod cenedlaethau鈥檙 dyfodol yn gwybod yn union faint y newidiodd bachgen lleol sut mae鈥檙 byd i gyd yn gweld y tywydd.鈥

Dywedodd yr artist Andy O鈥橰ourke o Malarky Arts, 鈥淧an gefais y comisiwn gyntaf, cefais fy swyno gan gyflawniadau Syr David. Drwy鈥檙 murlun, roeddwn i eisiau dathlu ei waddol mewn ffordd weledol sy鈥檔 dod 芒鈥檌 stori鈥檔 fyw ac yn ei gwneud yn hygyrch i bobl o bob oed.鈥