抖阴精品

Sicrhau Cyllid i Wella Rhwydwaith Gwresogi Ardal Glynebwy

Mae Cyngor 抖阴精品 wedi sicrhau dros 拢20,000 mewn cyllid i wella ymhellach y rhwydwaith gwresogi ardal yn Y Gweithfeydd, Glynebwy, gan ddarparu ynni effeithlon, carbon isel i sawl adeilad trwy gyfuniad o gynhyrchu CHP arloesol, biomas adnewyddadwy, a seilwaith ategol.

Mae'r rhwydwaith yn darparu gwres o ganolfan ynni canolog drwy tua 4km o bibellau i adeiladau allweddol ar y safle, gan gynnwys Canolfan Chwaraeon Glynebwy, Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr, Coleg Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Archifau Gwent, Unedau Hybrid a Regain 2.

Mae'r ganolfan ynni yn defnyddio cymysgedd o foeleri nwy, gwres a pher cyfunedig (CHP), a dau foeler biomas. Gyda'i gilydd, mae'r systemau hyn eisoes yn cyflenwi'r rhan fwyaf o'r gwres o ffynonellau ynni carbon isel.

Mae'r Cyngor wedi derbyn 拢20,358 drwy Gynllun Effeithlonrwydd Rhwydwaith Gwresogi Llywodraeth y DU, a redir gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i:

  • Adolygu sut mae'r rhwydwaith yn perfformio ar hyn o bryd
  • Gwella sut mae'n cael ei redeg a'i reoli
  • Lleihau costau ac allyriadau carbon
  • Creu cynllun clir ar gyfer gwelliannau a datgarboneiddio yn y dyfodol

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdogaethau a'r Amgylchedd Cyngor 抖阴精品, y Cynghorydd Tommy Smith:

鈥淩ydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a鈥檔 cymunedau i leihau allyriadau carbon a symud tuag at Flaenau Gwent mwy cynaliadwy a gwyrddach. Mae鈥檙 rhwydwaith gwresogi yng Nglynebwy wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rydym wrth ein bodd yn sicrhau鈥檙 cyllid hwn i edrych ar sut y gallwn ei wneud hyd yn oed yn fwy effeithlon, a chost-effeithiol ac o bosibl i gysylltu mwy o adeiladau ag ef yn y dyfodol.鈥

Mae Rownd 10 o鈥檙 Cynllun Effeithlonrwydd Rhwydwaith Gwresogi (HNES) yn edrych fel un o rowndiau cyllido mwyaf y rhaglen, wrth i landlordiaid cymdeithasol, ysbytai, prifysgolion, elusennau ac adeiladau sector cyhoeddus eraill dderbyn cyfran o 拢15.6 miliwn.

Dywedodd Martin McCluskey, Gweinidog dros Ddefnyddwyr Ynni:

鈥淢ae鈥檙 gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi dangos unwaith eto pam fod yn rhaid i ni ddod oddi ar y tr锚n codi a gostwng tanwydd ffosil i ynni gl芒n, cartref rydyn ni鈥n ei reoli. Bydd rhwydweithiau gwresogi yn chwarae rhan hanfodol yn y newid hwnnw, gan ostwng biliau i gymunedau cyfan wrth gryfhau ein diogeledd ynni.

鈥淒yna pam rydyn ni鈥檔 uwchraddio systemau hen ac aneffeithlon ac yn buddsoddi mewn rhwydweithiau modern, cost isel sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol.鈥