Mae grwpiau cymunedol ac ysgolion ar draws 抖阴精品 yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid yn rownd nesaf Grant Cydlyniant Cymunedol Gwent, sy'n ariannu prosiectau sy'n dod 芒 phobl at ei gilydd, ac yn hyrwyddo cynhwysiant.

Mae hyd at 拢2,000 ar gael i gefnogi prosiectau sy'n helpu i gryfhau cysylltiadau cymunedol, dathlu amrywiaeth a chreu cyfleoedd i bobl nad ydynt fel arfer yn dod at ei gilydd, i gwrdd, a rhannu profiadau.
Y llynedd, dyfarnwyd yr arian i bedwar prosiect ym Mlaenau Gwent:
- Together on Air 鈥 prosiect radio cymunedol
- Gweithdai diwylliant Affricanaidd Sefydliad y Glowyr Llanhiledd
- Prosiect Perthyn a Threftadaeth T欧 Cymunedol Bryn Farm
- Chwaraeon cynhwysol Clwb Criced Abertyleri
Fe wnaeth Together on Air defnyddio p诺er cyfryngau creadigol i gysylltu pobl, gan ddod 芒 thrigolion o wahanol oedrannau a chefndiroedd at ei gilydd. Daeth mwy na 80 o bobl ynghyd, yn cynnwys trigolion h欧n, pobl ifanc, cymunedau lleiafrifol, ffoaduriaid ac aelodau o gymunedau teithwyr, i gymryd rhan mewn sesiynau radio wythnosol yn BGfm Radio. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys adrodd stor茂au, barddoniaeth, perfformiadau cerddorol a thrafodaethau meic agored. Cafodd bawb gyfle i gynllunio, recordio, darlledu鈥檔 fyw a golygu.
Roedd y darllediadau yn dathlu treftadaeth leol yn Nant-y-glo a'r cymoedd ehangach, tra hefyd yn adlewyrchu'r diwylliannau amrywiol sy'n siapio 抖阴精品 heddiw. Roedd y sesiynau hefyd ar gael ar ffurf podlediadau.
Roedd Dathlu Diwylliant Affricanaidd yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd yn rhaglen fywiog o weithdai diwylliant Affricanaidd i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 16 oed. Cafodd y plant gyfle i archwilio diwylliannau a thraddodiadau Zimbabwe, Nigeria a Ghana yn ymarferol, yn cynnwys coginio Reis Jollof. Un o glasuron Nigeria, a chreu drymiau Djembe, masgiau llwythol a chollage ar y thema saffari.
Llwyddodd y sesiynau i annog trafodaeth agored, chwilfrydedd a pharch at wahanol ddiwylliannau, a chynnig lle diogel a chroesawgar i blant ddysgu, gofyn cwestiynau a dathlu amrywiaeth.
Roedd Cryfhau Ymdeimlad o Berthyn a Threftadaeth yn Nh欧 Cymunedol Bryn Farm yn rhaglen o weithgareddau cynhwysol, yn pontio鈥檙 cenedlaethau, gan ganolbwyntio ar dreftadaeth, caredigrwydd a rhannu cyfrifoldeb.
Cafodd pobl leol gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a oedd yn amrywio o arddio a pharatoi bwyd, i gelfyddydau ac adrodd stor茂au. Gan ddefnyddio bwyd fel man cychwyn, aeth y trigolion h欧苍 ati i rannu atgofion am ddulliau traddodiadol o dyfu, sychu a phiclo bwyd, felly鈥檔 atgyfnerthu dealltwriaeth ymhlith y cenedlaethau ac ysbrydoli prosiectau garddio cymunedol yn y dyfodol.
Rhoddodd y prosiect bwyslais cryf ar barch, cynhwysiant, a mynd i鈥檙 afael 芒 pherthnasoedd rhwng y cenedlaethau. O ganlyniad, mae gwirfoddolwyr newydd wedi camu ymlaen, ac mae grwpiau gweithgareddau ychwanegol bellach yn ffurfio yn y T欧 Cymunedol.
Clwb Criced Abertyleri yn hyrwyddo criced i ferched gyda phwyslais ar ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rhoddodd y prosiect hwn gyfle i ddisgyblion o bum ysgol gael hyfforddiant criced cynhwysol, mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol. Fe wnaeth mwy na 300 o ddisgyblion gymryd rhan, yn cynnwys llawer nad oeddent erioed wedi cymryd rhan mewn chwaraeon strwythuredig o'r blaen. Cynlluniwyd y sesiynau i ddiwallu ystod eang o anghenion a galluoedd, drwy ddefnyddio offer wedi'i addasu a gweithgareddau pwrpasol, i sicrhau bod pawb a gymerodd rhan, yn teimlo eu bod yn cael cyfle i ymuno. Creodd y dull hwn ymdeimlad o berthyn i ddisgyblion o gefndiroedd diwylliannol, cymdeithasol ac addysgol amrywiol a chefnogwyd y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i gymryd rhan yn hyderus.
Mae'r prosiect hefyd wedi adfywio diddordeb yn nhraddodiad criced yr ardal, gan roi cyfle i ddisgyblion feithrin cyswllt 芒 chlybiau lleol, a deall r么l criced wrth lunio hunaniaeth yn y gymuned.
Trwy鈥檙 fath ymgysylltu gyson, llwyddwyd i greu cyfeillgarwch ar draws gwahanol grwpiau o ddisgyblion, gan hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol a chryfhau dealltwriaeth ymysg unigolion o gefndiroedd amrywiol. O ganlyniad, llwyddwyd i gryfhau llwybrau lleol i ferched a merched ifanc sydd am barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymunedau.
Dywedodd y Cyng. Jules Gardner, Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau ym Mlaenau Gwent:
鈥淢ae'r Grant Cydlyniant Cymunedol yn dangos cymaint o wahaniaeth go iawn y gall symiau bach o gyllid ei wneud, a hynny鈥檔 barhaol. Mae'r prosiectau hyn wedi helpu pobl i deimlo bod ganddynt lais, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt ymdeimlad o gysylltiad, boed hynny trwy rannu straeon lleol ar y radio, dathlu gwahanol ddiwylliannau, neu ddod 芒 chenedlaethau at ei gilydd yn enw treftadaeth a bwyd.
鈥溍 ninnau yn Gyngor Marmot, sy鈥檔 anelu i wella cydlyniant cymunedol, a thrwy ein ffordd newydd o weithio gyda chymunedau trwy'r Fargen, rydym yn falch o gefnogi syniadau cymunedol sy'n cryfhau ymdeimlad o berthyn, ac yn hyrwyddo cynhwysiant i bawb. Nawr bod y cyfle i wneud cais ar agor, rwyf yn annog grwpiau cymunedol ac ysgolion ledled 抖阴精品 i gynnig eu syniadau a鈥檔 helpu i barhau i feithrin cymunedau cynhwysol, sy鈥檔 estyn croeso i bawb.鈥
Mae ceisiadau nawr ar agor. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026.
I gael mwy o wybodaeth am gymhwystra a sut i wneud cais, ewch i: Grant Cydlyniant Cymunedol 2026 Ffurflen Cais am Gyllid | 抖阴精品 CBC
